Yn nhref glan y môr Prestatyn, mae Caffi a Bar Cwt y Traeth dafliad carreg o filltiroedd o draethau tywodlyd. Mae’n lle cynnes a chroesawgar, ac mae gennym ni fwydlen amrywiol gyda rhywbeth at ddant pawb. Pa un ai ydych chi’n adeiladu cestyll tywod ar y traeth, yn cerdded ar hyd y promenâd, neu’n cwrdd â ffrindiau a theulu am ginio, mae gennym ni fwyd a diod ardderchog i’ch bodloni a’ch paratoi chi ar gyfer eich antur nesaf!
Ar agor 7 diwrnod yr wythnos.
Ein Bwydlen
Mae ein bwydlen yn dweud y cyfan. Mae’n llawn prydau blasus. Pa un ai ydych chi’n chwilio am sglodion wedi’u llwytho, byrgyrs, pitsas wedi’u pobi ar garreg neu ein prydau arbennig, mae gennym ni rywbeth at ddant pawb!
Mojitos
Gwnewch atgofion melys yn ein Bar Coctels Awyr Agored, Mojitos. Dewch i fwynhau’r awyrgylch a dadflino gydag un o’n coctels bendigedig – ac mae’r golygfeydd panoramig o arfordir gogledd Cymru yn odidog.
Oriau Agor Cwt y Traeth
Dydd Llun – Dydd Iau: 9.30-19.00 (Bwyd tan 18.30)
Dydd Gwener & Dydd Sadwrn: 9.30-21.00 (Bwyd tan 20.00)
Dydd Sul: 9.30-19.00 (Bwyd tan 18.30)
Mojitos:
Dydd Gwener a Dydd Sadwrn: 15:00pm-21:00pm*
*Mae’r oriau agor Mojitos yn amodol ar y tywydd